SL(6)219 – Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm i Gymru”).

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gosod fel rhan o gyfres o reoliadau i gefnogi gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022 ymlaen.

 

Bydd y Rheoliadau hyn yn galluogi penaethiaid ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir a darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir i benderfynu na ddylai darpariaethau’r Cwricwlwm i Gymru fod yn gymwys i blentyn neu ddisgybl, neu y dylent fod yn gymwys gydag addasiadau.

Mae rheoliad 4 yn darparu na chaniateir rhoi penderfyniad ond mewn achosion pan fo’r person perthnasol yn ystyried nad yw’n briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r disgybl hwnnw am y tro. Fodd bynnag, mae amgylchiadau'n debygol o newid fel y bydd yn briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw neu’r plentyn hwnnw o fewn chwe mis i’r dyddiad y daw’r penderfyniad i rym. 

Mae rheoliad 5 yn darparu na chaiff hyd y penderfyniad cyntaf fod yn hwy na chwe mis. 

Mae rheoliad 6 yn darparu y caniateir amrywio penderfyniad, tra bod rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymu penderfyniad.  Mae rheoliad 8 yn darparu y caniateir gwneud penderfyniadau pellach o dan amgylchiadau penodol ac yn ddarostyngedig i gydsyniad yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu fel y bo angen. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth debyg ar gyfer darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir. 

Mae rheoliad 10 yn darparu y caiff disgybl neu riant disgybl ofyn i’r person perthnasol wneud, dirymu neu amrywio penderfyniad. Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i’r person perthnasol wneud, amrywio neu ddirymu penderfyniad o fewn dwy wythnos neu wrthod y cais. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Pan fydd disgybl neu riant yn gwneud cais i'r pennaeth, neu ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir wneud, dirymu neu amrywio penderfyniad yn unol â rheoliad 10(1) neu (2) (fel y bo'n gymwys), rhaid i'r cais gael ei wneud "ar lafar neu’n ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros ei wneud" (gweler rheoliad 10(3)). Mae'n ofynnol i'r person perthnasol wneud, amrywio neu ddirymu'r penderfyniad neu roi hysbysiad o'r penderfyniad i wrthod gwneud hynny, o fewn dwy wythnos i gael cais (gweler rheoliad 11). Fodd bynnag, ymddengys nad oes gofyniad penodol i'r person perthnasol roi rhesymau dros ei benderfyniad os yw'n gwrthod y cais. Mae hyn yn ymddangos yn anghyson â'r gofyniad penodol i rieni neu ddisgyblion roi rhesymau pan fyddant yn gwneud cais. Nodwn y gofyniad i benaethiaid ddarparu gwybodaeth (gan gynnwys rhesymau) yn unol ag adran 44 o'r Ddeddf, ond dim ond i sefyllfaoedd pan fo pennaeth yn "gwneud, yn amrywio neu’n dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42" y mae hyn yn berthnasol (adran 44(1) o'r Ddeddf). Nid yw hyn yn cynnwys gwrthod cais. Nodwn fod y Nodyn Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau yn nodi bod Rheoliad 11 yn darparu bod “rhaid i'r person perthnasol wneud, amrywio neu ddirymu penderfyniad o fewn dwy wythnos, gyda rhesymau os gwrthodir y cais”. Fodd bynnag, nid yw'n glir sut y mae'r ddarpariaeth yn rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol yn benodol i'r person perthnasol roi rhesymau os gwrthodir cais.

 

Rhinweddau: Craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn diffinio'r term "pennaeth" ond defnyddir y term hwn yn y Rheoliadau. Mae Offerynnau eraill yn y gyfres, megis Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022, yn diffinio'r term “pennaeth” fel un sydd â'r “ystyr a roddir i ‘head teacher’ yn adran 579(1) o Ddeddf 1996”. Gallai'r anghysondeb hwn o ran dull gweithredu achosi dryswch i'r darllenydd, yn enwedig o ystyried arwyddocâd y term pennaeth wrth weithredu’r Rheoliadau hyn (p'un a gaiff ei ddefnyddio'n annibynnol neu fel rhan o'r diffiniad ehangach o berson perthnasol).

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Mehefin 2022